Amdanon ni!

 
 CARFAN GWREIDDIOL

CLWB HOCI CASTELL NEWYDD EMLYN

2004-05 

 

Sefydlwyd y clwb nol yn 2004 gan griw o ferched lleol a oedd yn dymuno cael esgus i gymdeithasu a chadw'n ffit ar yr un pryd! Wedi recriwtio merched o bob lliw a llun, ymunodd y clwb gyda Cynghrair Hoci Dyffryn Teifi. Cafwyd llawer o hwyl a sbri y tymor hwn wrth chwarae ar borfa ac achub mantais ar bob cyfle i fynd mas i Gastellnewydd Emlyn am beint! Erbyn hyn rydym wedi symud i ymarfer ar yr astro ac wedi gwella'n gyson pob tymor.


Eleni, bwriad y clwb yw i barhau i wella safon yr hoci, ond yn bwysicach, i fwynhau yr ymarfer, y gemau, a'r cymdeithasu. Ein gobaith yw i recriwtio mwy o chwaraewyr newydd i'r clwb o bob oedran a gallu, ond i wneud ymdrech bellach i ddenu merched ifanc yn eu harddegau. Felly, os oes gennych ddiddordeb i ymuno (beth bynnag eich gallu!), ewch i'r dudalen MANYLION CYSWLLT.



Lleoliad

(Ond yn ymarfer pob nos Fercher am 20:00 ar astro Llandysul)